Yn eu 'doethineb', mae aelodau Clwb Golff Dinbych wedi fy mhenodi fel eu capten am 2017. Wedi siarad gyda Alwyn Bevan, Cadeirydd, Cyngor Rygbi Gogledd Cymru, cytunwyd i gynnal Cystadleuaeth Golff i Glybiau Rygbi Gogledd Cymru yn Ninbych yn 2017.
Gweler isod y manylion.
Edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb positif.
Hwyl
Tegid Phillips
CYSTADLEUAETH GOLFF I GLYBIAU RYGBI GOGLEDD CYMRU
(i aelodau, chwaraewyr, noddwyr, cefnogwyr ayyb)
i’w gynnal yng NGHLWB GOLFF DINBYCH
ar DDYDD SADWRN, 15fed GORFFENNAF, 2017
AMSEROEDD TI 2.30-3.30 y.h.
FFURF Y GYSTADLEUAETH- Betterball Stableford
COST (i gynnwys te/coffi a brechdan cig mochyn/llysieuwr wrth gyrraedd, y golff a gwobrau) £24/par (sieciau yn daladwy i Glwb Golff Dinbych)
Anfonwch fanylion unrhyw chwaraewyr a’r ffioedd i
Tegid Phillips’
Bryn Collen,
68, Stryd Y Dyffryn,
Dinbych,
LL16 3BW
cyn 30ain Mehefin, 2017
Manylion bydd angen anfon i mewn am bob chwaraewr- enw, clwb rygbi, clwb golff, handicap, manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost a rhif ffôn)
There doesn't appear to be any tagged photos.
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.